Ty Bach Twt, Mopsi Don
Ar Log
3:13Mae sŵn yn Mhortinllaen, sŵn hwylie'n codi Blocie i gyd yn gwichian, Dafydd Jones yn gweiddi Ni fedra'i aros gartre yn fy myw Rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw Fflat Huw Puw yn hwylio heno Sŵn y codi angor, mi fyna'i fynd i forio Ni fedra'i aros gartre yn fy myw Rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw Mi bryna'i yn Iwerddon sana sidan Sgidie bach i ddawnsio, a rheiny a bycle arian Mi fyddai'n ŵr bonheddig tra bydda'i byw Os ca i fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw Fflat Huw Puw yn hwylio heno Sŵn y codi angor, mi fyna'i fynd i forio Mi fyddai'n ŵr bonheddig tra bydda'i byw Os ca i fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw Mi gadwai'r Fflat fel parlwr gore Bydd sgwrio mawr a chrafu bob ben bore Mi fydd y pres yn sgleinio ar y llyw Pan fydda i yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw Fflat Huw Puw yn hwylio heno Sŵn y codi angor, mi fyna'i fynd i forio Mi fydd y pres yn sgleinio ar y llyw Pan fydda i yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw