Y Deryn Pur
Ar Log
4:25Mae prydferthwch ail i Eden Yn dy gynnes fynwes feinwen Fwyn gariadus, liwus lawen Seren syw, clyw di'r claf Yn dy lygaid caf wirionedd Yn serennu gras a rhinwedd Mae dy weld i mi'n orfoledd Seren syw, clyw di'r claf Liwus lonad, serch fy mynwes Wiwdeg orau 'rioed a geres Mi'th gymeraf yn gymhares Seren syw, clyw di'r claf Addo'th gariad i mi heno Gwnawn amodau cyn ymado I ymrwymo doed a ddelo Rho dy gred, a d'wed y doi