Mae Hiraeth Yn Fy Nghalon
Dafydd Iwan
3:32Pan fydd haul ar y mynydd Pan fydd gwynt ar y môr Pan fydd blodau yn y perthi A'r goedwig yn gôr Pan fydd dagrau f'anwylyd Fel gwlith ar y gwawn Rwy'n gwybod, bryd hynny Mai hyn sydd yn iawn Rwy'n gwybod beth yw rhyddid Rwy'n gwybod beth yw'r gwir Rwy'n gwybod beth yw cariad At bobol ac at dir Felly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl Peidiwch edrych arna i mor syn Dim ond ffŵl sydd yn gofyn Pam fod eira yn wyn Pan fydd geiriau fy nghyfeillion Yn felys fel y gwin A'r seiniau mwyn, cynefin Yn dawnsio ar eu min Pan fydd nodau hen alaw Yn lleddfu fy nghlyw Rwy'n gwybod beth yw perthyn Ac rwy'n gwybod beth yw byw Rwy'n gwybod beth yw rhyddid Rwy'n gwybod beth yw'r gwir Rwy'n gwybod beth yw cariad At bobol ac at dir Felly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl Peidiwch edrych arna i mor syn Dim ond ffŵl sydd yn gofyn Pam fod eira yn wyn Pan welaf graith y glöwr A'r gwaed ar y garreg las Pan welaf lle bu'r tyddynnwr Yn cribo gwair i'w das Pan doliar bren y gorthrwm Am wddf y bachgen tlawd Rwy'n gwybod bod rhaid i minnau Sefyll dros fy mrawd Rwy'n gwybod beth yw rhyddid Rwy'n gwybod beth yw'r gwir Rwy'n gwybod beth yw cariad At bobol ac at dir Felly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl Peidiwch edrych arna i mor syn Dim ond ffŵl sydd yn gofyn Pam fod eira yn wyn Felly peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl Peidiwch edrych arna i mor syn Dim ond ffŵl sydd yn gofyn Pam fod eira yn wyn