Mae Hiraeth Yn Fy Nghalon
Dafydd Iwan
3:32Rwy'n cofio Llywelyn, byddinoedd Glyndŵr Yn ymladd dros ryddid ein gwlad Ond caethiom ni eto, dan bowen y Sais Mor daeog, mor llwm ein hystad Ac wrth feddwl am fy Nghymru Daw gwew i 'nghalon i Dyw'r werin ddim digon o ddynion - 'bois' I fynnu ei rhyddid hi Wrth edrych o'th gwmpas fe weli Fod yr heniaith yn cilio o'r tir Ni chlywir yr un acen a ni chlywir yr un gair O iaith ein cyn dadau cyn hir Ac wrth feddwl am fy Nghymru Daw gwew i 'nghalon i Dyw'r werin ddim digon o ddynion - 'bois' I fynnu ei rhyddid hi Mae argae ar draws Cwm Tryweryn Yn gofgolofn i'n llwfrdra ni Nac anghofiwn ddewrder yr hogiau prin Aeth i garchar y Sais drosom ni Ac wrth feddwl am fy Nghymru Daw gwew i 'nghalon i Dyw'r werin ddim digon o ddynion - 'bois' I fynnu ei rhyddid hi Disgynnodd yr iau ar ein gwarae 'Ni allwn ni ddianc rhag hon' Y mae arial y Celt yn byrlymu'n ein gwaed A fflam Glyndŵr dan ein bron Ac wrth feddwl am fy Nghymru Daw llawenydd i'n nghalon i Os nad yw'r werin yn ddigon Rhaid i ni ddod yn ddynion I fynnu ei rhyddid hi