6 Feet Under
Tara Bandito
3:08Gradd da yn y Gymraeg Ar y Volvo bathodyn Tafod y Ddraig Hoff o fynychu pwyllgorau blinedig Am ddyfodol yr iaith yn enwedig Meistroli iaith lleiafrifol fel hobi Platiau dwyieithog i helpu'r gyrru Agwedd cwbl addas ar gyfer cynllun carte Sydd allan o set *Dinas* Wastad yn mynd i Lydaw Byth yn mynd i Ffrainc Wastad yn mynd i Wlad y Basg Byth yn mynd i Sbaen Fin nos yn mynychu bwytai Wedi dydd ar y prosesydd geiriau Mewn swydd sy'n talu'r morgais I'ch gwyneb person cwbl cwrtais O'r ysgol feithrin i brifysgol Cymru Tocyn oes ar y trên grefi Byddai'n well gen a fi fod yn jynci Na bod mor wyrdd â phoster Plaid Cymru Darnau gosod yr Ŵyl Gerdd Dant A holl broblemau'r ddau o blant Gwersi telyn a Llinos Wyn A phroblem acne Llywarch Glyn Heb anghofio codi stŵr Am straen angheuol job y gŵr Mae'n gorfod gweithio 1 tan 3 Yn gynhyrchydd BBC Llosgwch eich tafodau ar eich panedi piwritanaidd Collwch eich dynoliaeth mewn economeg academaidd Enwch gyfeillion sy'n enwogion i gyd o Seiri Rhyddion Trafodwch tapiau corau meibion a'r eitemau ar *Hel Straeon* Rhifau cynulleidfa'r oedfa A pha liw lenni'r lolfa Tiwtoriaid preifat i helpu'r plant Yn Neuadd Dewi Sant Digon o wyliau i gynnal lliw haul Digon wrth Brydeinig i swnio fel *Sieg Heil* Meistroli iaith leiafrifol fel hobi Dweud fod Cymru'n cael ei orthrymu Er fod eich ceir â'r sticyrs Tafod y Ddraig Achos gradd da yn y Gymraeg Bla bla bla that's done Gymry Rhowch eich clustiau I'r cyfeiriad yma Mae rhyfel niwclear yn y Beibl Barn Duw a chymdeithas ffol Ond dio'r ots gen chi am hyna Da chi jyst isho Roc a rol. Pop peth da sy'n dod I ti.