Y Ferch O Blwy Penderyn, Tros Y Garreg
Ar Log
4:30Mi sydd fachgen ieuanc ffôl Yn byw yn ôl fy ffansi Myfi′n bugeilio'r gwenith gwyn Ac arall yn ei fedi Pam na ddeudi ar fy ôl Ryw ddydd ar ôl ei gilydd? Gwaith ′rwyn dy weld, y feinir fach Yn lanach, lanach beunydd! Glanach, lanach wyt bob dydd Neu fi â’m ffydd yn ffolach Er mwyn y Gŵr a wnaeth dy wedd Gwna im drugaredd bellach Cwnn dy ben, gwêl acw draw Rho i mi’th law wen dirion Gwaith yn dy fynwes bert ei thro Mae allwedd clo fy nghalon! Tra fo dŵr y môr yn hallt A thra fo ‘ngwallt yn tyfu A thra fo calon dan fy mron Mi fyddai’n ffyddlon iti Dywed imi’r gwir heb gêl A rho dan sêl d’atebion P’un ai myfi neu arall, Gwen Sydd orau gen dy galon