Mae Hiraeth Yn Fy Nghalon
Dafydd Iwan
3:32Ai am fod haul yn machlud Mae deigryn yn llosgi fy ngrudd? Neu ai am fod nos yn bygwth Rhoi terfyn ar antur y dydd? Neu ai am fod côr y goedwig Yn distewi a mynd yn fud? Neu ai am i rywun fy ngadael Rwyf innau mor unig fy myd? Ond os yw yr haul wedi machlud Mae gobaith yng ngolau'r lloer A chysgod yn nwfn y cysgodion Ym cadw rhag y gwyntoedd oer Ac os aeth cri'r gylfinir Yn un â'r distawrwydd mawr Mi wn y daw rhywun i gadw Yr oed cyn toriad y wawr Yr oed cyn toriad y wawr